Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Mai 2019

Amser: 09.35 - 11.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5485


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Huw Irranca-Davies AC

Mark Isherwood AC

Jenny Rathbone AC

Leanne Wood AC

Tystion:

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Simon Jones, Llywodraeth Cymru

Dewi Rowlands, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Lisa Griffiths (Dirprwy Glerc)

Megan Jones (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Carwyn Jones AC.

</AI1>

<AI2>

2       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3 a 6

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI2>

<AI3>

3       Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: Adborth o sesiynau'r grwpiau ffocws

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth a gafwyd o'r sesiynau a gynhaliwyd â'r grwpiau ffocws. 

</AI3>

<AI4>

4       Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: Sesiwn Dystiolaeth 5

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

·         Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd

·         Dewi Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth

4.2 Cytunodd y Gweinidog i gymryd y camau a ganlyn:

·         darparu rhagor o wybodaeth am nifer yr achosion o bobl yn camddefnyddio'r cynllun bathodyn glas yng Nghymru, gan gynnwys manylion y data sydd gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol sy'n dangos bod 20 y cant o fathodynnau glas yn cael eu camddefnyddio ledled y DU;

·         darparu manylion ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio gweithdai hyfforddi a phecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer asesiadau bathodyn glas; a

·         darparu manylion am y gyfran o achosion o gamddefnyddio'r system y gellir ei gwaredu drwy ddileu bathodynnau nad ydynt yn ddilys.

 

</AI4>

<AI5>

5       Papurau i’w nodi

</AI5>

<AI6>

5.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Gwneud gwaith craffu yn ‘Addas at y Dyfodol’

5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch gwneud gwaith craffu yn ‘Addas at y Dyfodol’.

</AI6>

<AI7>

5.2   Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Gorchymyn Gwasanaeth Carchardai 4650 cyfredol ar Hawliau Pleidleisio Carcharorion

5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Gorchymyn Gwasanaeth Carchardai 4650 cyfredol ar Hawliau Pleidleisio Carcharorion.

</AI7>

<AI8>

5.3   Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'

5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'.

</AI8>

<AI9>

6       Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: trafod y dystiolaeth

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>